SL(6)662 – Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau (Diwygio) (Rhif 2) 2025

Cefndir a diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 (O.S. 2023/1394) (“Gorchymyn 2023”). Sefydlodd Gorchymyn 2023 bedwar cynllun masnachu newydd sy'n cyfyngu, neu'n annog cyfyngu, ar allyriadau CO2 sy'n deillio o gofrestru ceir newydd a cherbydau masnachol ysgafn (faniau). Mae dau o'r cynlluniau'n berthnasol i geir: y Cynllun Masnachu Cofrestriadau Ceir nad ydynt yn Ddi-Allyriadau (“CRTS”) a'r Cynllun Masnachu CO2 Ceir nad ydynt yn Ddi-allyriadau (“CCTS”), ac mae dau'n berthnasol i faniau: y Cynllun Masnachu Cofrestriadau Faniau Nad ydynt yn Ddi-allyriadau (“VRTS”) a'r Cynllun Masnachu CO2 Faniau nad ydynt yn Ddi-allyriadau (“VCTS”).

Mae’r gwelliannau a wneir gan Ran 2 o'r Gorchymyn hwn—

            yn ymestyn blynyddoedd y cynllun y gall cyfranogwyr fenthyca lwfansau CRTS a VRTS mewn perthynas â nhw (erthyglau 5 a 20 yn y drefn honno);

            yn ymestyn blynyddoedd y cynllun y gellir trosi lwfansau CCTS nas defnyddiwyd yn gredydau CRTS mewn perthynas â hwy, ac y gellir trosi lwfansau VCTS nas defnyddiwyd yn gredydau VRTS, yn ogystal â'r capiau sy'n berthnasol i drosiadau o'r fath (erthyglau 8 a 23 yn y drefn honno);

            yn caniatáu i lwfansau VRTS nas defnyddiwyd gael eu trosi’n gredydau CRTS a lwfansau CRTS nas defnyddiwyd gael eu trosi’n gredydau VRTS (erthyglau 9 a 24 yn y drefn honno);

            yn caniatáu i gyfranogwyr CRTS sydd hefyd yn weithgynhyrchwyr faniau SPV drosi credydau VRTS yn gredydau CRTS, a chaniatáu i gyfranogwyr VRTS sydd hefyd yn weithgynhyrchwyr ceir SPV drosi credydau CRTS yn gredydau VRTS (erthyglau 10 a 25 yn y drefn honno);

            yn caniatáu i gyfranogwyr CRTS fasnachu lwfansau CRTS gyda chyfranogwyr VRTS (gyda'r effaith bod lwfans CRTS yn cael ei drosi'n bedwar degfed o gredyd VRTS) a chyfranogwyr VRTS i fasnachu lwfansau VRTS gyda chyfranogwyr CRTS (gyda'r effaith bod lwfans VRTS yn cael ei drosi'n ddau gredyd CRTS wrth ei waredu) (erthyglau 12 a 27 yn y drefn honno);

            yn caniatáu i weithgynhyrchwyr ceir SPV fasnachu credydau CRTS gyda chyfranogwyr VRTS (gyda'r effaith bod credyd CRTS yn cael ei drosi'n bedwar degfed o gredyd VRTS), a gweithgynhyrchwyr faniau SPV fasnachu credydau VRTS gyda chyfranogwyr CRTS (gyda'r effaith bod credyd VRTS yn cael ei drosi'n ddau gredyd CRTS wrth ei waredu) (erthyglau 14 a 29 yn y drefn honno);

            yn diwygio’r cosbau ariannol am beidio â chydymffurfio (erthyglau 15 a 30 yn y drefn honno);

            yn diwygio'r rheolau cymhwyso ar gyfer trosi lwfansau CRTS nas defnyddiwyd yn lwfansau CCTS, a lwfansau VRTS nas defnyddiwyd yn lwfansau VCTS, er mwyn caniatáu i lwfansau sydd wedi'u bancio gael eu hystyried (erthyglau 18 a 33 yn y drefn honno).

Mae Rhan 2, hefyd, yn gwneud nifer o welliannau canlyniadol (gweler erthyglau 4, 6, 7, 11, 13, 16, 17, 19, 21, 22, 26, 28, 31, 32, 34, 35 a 36) ac yn cywiro nifer o wallau teipiograffig (gweler erthyglau 6(3)(a), 37, 38 a 43).

Mae'r gwelliannau a wneir gan Ran 3 o'r Gorchymyn hwn yn caniatáu i weithgynhyrchwyr ceir a faniau trydan hybrid OVC sydd â’u math wedi'u gymeradwyo yn unol â safonau allyriadau penodol, wneud cais i allyriadau CO2 y cerbydau gael eu pennu yn unol ag Atodlen 3A newydd i Orchymyn 2023.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Gorchymyn hwn yn y Cyfrin Gyngor gan Ei Fawrhydi cyn iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. 

Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i osodwyd gerbron y Senedd. Gall y tair deddfwrfa arall hefyd annilysu'r Gorchymyn, yn unol â'r rheolau ar gyfer annilysu sy'n gymwys i bob un o'r deddfwrfeydd hynny. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r Gorchymyn wedi’i osod gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae’r Gorchymyn wedi’i wneud yn Saesneg yn unig. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn datgan fel a ganlyn (ym mharagraff 2.2): 

Gan y bydd yr offeryn hwn yn destun craffu gan Seneddau’r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i'r offeryn hwn gael ei wneud na'i osod yn ddwyieithog.” 

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol (ym mharagraff 2.3): 

Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad, comisiynodd Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig ar y cyd y Pwyllgor Newid Hinsawdd (“CCC”) i roi cyngor ar yr offeryn hwn yn unol ag adran 48 o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008. Cyhoeddwyd y cyngor hwn gan y CCC ar eu gwefan. Llythyr: Ymateb CCC i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar Orchymyn VETS – y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Tachwedd 2025